Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2011

 

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(13 )

 

<AI1>

1.   Cwestiynau i'r Prif Weinidog

 

Gofynnwyd y 14 cwestiwn.

 

14.37

</AI1>

<AI2>

Cwestiwn Brys

Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Yng ngoleuni’r datblygiadau diweddaraf, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael ynghylch lles y rhai sy’n byw mewn cartrefi sy’n cael eu rhedeg gan Southern Cross. EAQ(4)0019(HSS)

 

14.48

</AI2>

<AI3>

2.   Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

14.58

</AI3>

<AI4>

3.   Cynnig i gymeradwyo cyllideb atodol

NDM4748 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30 , yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12 , a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth  21 Mehefin 2011.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb floc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb floc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng amcangyfrif y symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

</AI4>

<AI5>

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda’i gilydd, ond gyda phleidlais ar wahân (15 munud)

 

15.12</AI5>

<AI6>

 

4.   Gorchymyn (Diwygio) Gorchymyn Eithrio Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 (Cymru) 2011

NDM4781 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  21 Mehefin 2011.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI6>

<AI7>

 

5.   Rheoliadau Rheoliadau Cynllun Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 (Diwygio) (Cymru) 2011

NDM4782 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Rheoliadau Cynllun Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 (Diwygio) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2011.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI7>

<AI8>

15.18

6.   Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2011

NDM4783 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) Diwygio 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2011.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

15.25

</AI8>

<AI9>

Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog

NDM4790 Jane Hutt  (Bro Morgannwg) 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: 

Yn atal Reol Sefydlog 12.20 (i) er mwyn caniatáu i NNDM4785 gael ei ystyried yn y cyfarfod llawn ddydd Mawrth 12 Gorffennaf 2011.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

</AI9>

<AI10>

 

15.26

7.   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth

NNDM4785 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

 

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau pellach hynny y daethpwyd â hwy gerbron yn y Bil Lleoliaeth sy’n ymwneud â Chynlluniau Adneuon Tenantiaeth a thrwyddedu tai amlfeddiannaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642 a NNDM4722.

Cafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

</AI10>

<AI11>

15.32

8.   Dadl ar gam-drin domestig

NDM4784 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried y cynnydd a wnaed yn y flwyddyn gyntaf yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel; ac

2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella diogelwch unigolion a'u teuluoedd sy'n destun cam-drin domestig ac i roi cefnogaeth iddynt.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymhellach:

a) Rôl ac arbenigedd mudiadau’r Trydydd Sector o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, yn ogystal â darparu cymorth i ddioddefwyr a phlant;

b) Yr angen i ymgysylltu â mudiadau’r Trydydd Sector yn llawn wrth fesur y cynnydd a gyflawnwyd yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig ac ar welliant 2 o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.


Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod dioddefwyr trais domestig yn parhau i gael mynediad at gyfiawnder.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

13

0

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

NDM4784 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried y cynnydd a wnaed yn y flwyddyn gyntaf yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel; ac

2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella diogelwch unigolion a'u teuluoedd sy'n destun cam-drin domestig ac i roi cefnogaeth iddynt.

3. Yn nodi ymhellach:

a) Rôl ac arbenigedd mudiadau’r Trydydd Sector o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, yn ogystal â darparu cymorth i ddioddefwyr a phlant;

b) Yr angen i ymgysylltu â mudiadau’r Trydydd Sector yn llawn wrth fesur y cynnydd a gyflawnwyd yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod dioddefwyr trais domestig yn parhau i gael mynediad at gyfiawnder.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48


Derbyniwyd y cynnig.

 

16.33

</AI11>

<AI12>

9.   Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru 2011-16

18.08

Crynodeb o Bleidleisiau

 

 

18.09

</AI12>

<AI13>

10.        Dadl Fer

NDM4780 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Llyfr Blegywryd newydd? Adfer Awdurod Cyfreithiol i Gymru.

</AI13>

<AI14>

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18.32

 

Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 on Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_AGENDA_SUMMARY

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_AGENDA_SUMMARY

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_AGENDA_SUMMARY

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_AGENDA_SUMMARY

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>